Materion rhyngwladol

Materion rhyngwladol
Materion rhyngwladol

Amgylchedd
Cenedlaetholdeb
Datblygiad
Moeseg
Mudo a ffoaduriaid
Rhanbartholdeb
Terfysgaeth
Tor-cyfraith cyfundrefnol


Categori

Pwnc cyfoes yw mater rhyngwladol neu fater byd-eang sydd yn tynnu sylw'r rhai sydd yn weithredol o fewn cysylltiadau rhyngwladol yn ogystal â'r rhai sydd yn ei astudio, ac hefyd yn galw am ddefnydd adnoddau o ryw ffurf gan weithredyddion.[1] Y deipoleg gyntaf i ddosbarthu materion gwleidyddol oedd yn nhermau mewnwladol neu ryngwladol, dull gwladwriaeth-ganolog oedd yn gydnaws â chydweddiad y peli biliards. Ehangwyd ar hyn trwy geisio gwahanu materion i gategorïau gwleidyddiaeth uchel ac isel, lle nad yw materion "uchel" o reidrwydd yn y materion pwysicaf ond y materion sydd yn pennu'r amgylchedd i faterion "isel" ddigwydd. Gwleidyddiaeth uchel, felly, yw sicrhau diogelwch cenedlaethol a chynnal yr amgylchedd ddiplomyddol ryngwladol.[2] Caiff y ddau ddosbarthiad hyn eu herio'n fwyfwy. Ystyrid bod nifer o faterion, yn enwedig yn wyneb globaleiddio, yn pontio'r meysydd mewnwladol ac rhyngwladol ac felly'n amhosib eu categoreiddio yn ôl y deipoleg gyntaf. Yn ail dadleua rhai bod y dosbarthiad uchel-isel yn annefnyddiol gan bod rhai digwyddiadau "isel" yn peri cymaint o fygythiad â digwyddiadau milwrol neu ddiplomyddol. Er enghraifft, i Saïr roedd argyfwng ffoaduriaid y Llynnoedd Mawr yn gymaint o fygythiad i ddiogelwch y wladwriaeth ag os oedd y miliynau o ffoaduriaid o Rwanda a Bwrwndi yn fyddin ymosodol.[3] Bellach ni cheir cymaint o bwyslais ar ddosbarthu materion rhyngwladol yn ôl eu math.[4]

  1. White, Little a Smith, t. 5.
  2. White, Little a Smith, t. 9.
  3. White, Little a Smith, t. 10.
  4. White, Little a Smith, t. 11.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search